Llwybr ibeacon yr Wyddgrug
Lluniwyd y llwybr ibeacon hwn o'n dref gan Gymdeithas Ddinesig Yr Wyddgrug a'r Cylch. Ffurfiwyd y Gymdeithas ym 1997 i gynnig cyfle i bobl leol ddarganfod a dysgu am y doreth o dreftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol a phensaernïol sydd ar garreg eu drws. Rydym yn cwrdd yn fisol, ar nos Iau cyntaf y mis, i glywed sgyrsiau ar faterion diddorol lleol a hanes lleol. Rydym wedi gosod placiau glas ar leoedd o ddiddordeb o gwmpas y dref, cadwch olwg am rai ohonynt! Mae gennym archif gymunedol o hen ffotograffau ac ystod o weithgareddau eraill. Mae croeso cynnes i chi os hoffech chi ddysgu mwy a / neu efallai ymuno â ni. Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ein llwybr sy'n gyflwyniad i hanes y dref ddiddorol hon.
Y tîm o Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug sydd wedi gweithio i greu'r app hwn, Diane Johnson, Mike Johnson, Chris Bithell, Kevin Matthias a Ray Roberts, dan arweiniad Jo Danson, Lorna Jenner a Bill Smuts.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug.
<-------- |
Main Index
| Mynegai