Mae hanes Dinas Basing yn mynd yn ôl dros fil o flynyddoedd i 1132, felly nid yw'n syndod bod llawer o storïau a chwedlau wedi cael eu hadrodd am y safle.
Gwelwyd llawer o ffigurau rhithiol tywyll o amgylch yr Abaty. Y Mynach Symudol Un o'r pethau hyn oedd mynach yn hedfan yn yr awyr, a byddai'n cael ei weld ar lawr uchaf yr Abaty. Dywedwyd bod y dyn hwn yn lliwgar a oedd hefo gwawr o olau ysgafn arno. Mae digonedd o adroddiadau o bresenoldeb anesmwythol, a byddai pobl yn rhedeg am eu bywydau ar ôl profiadau mor frawychus. Y Mynach Diflanedig Dywed un chwedl bod mynach Abaty Dinas Basing o'r 12fed ganrif yn cael ei hudo i goed gerllaw gan gân eos. Roedd o'n credu ei fod wedi bod yn gwrando am amser byr, ond pan ddychwelodd roedd yr Abaty yn adfeilion. Pan sylweddolodd ei fod wedi bod ers cannoedd o flynyddoedd, trodd yn friwsion o lwch. Mae fersiwn arall yn nodi bod y Mynach wedi ei roi mewn llesmair am gannoedd o flynyddoedd. Ar ôl dychwelyd i'r Abaty oedd bellach yn adfeilion, roedd o'n ddryslyd ac wrth gyffwrdd â'r bwyd a gynigwyd iddo, trodd yn llwch. Rhagweld y Dyfodol Dwy ganrif cyn diddymu'r Abaty, proffwydodd Robin Ddu, y byddai'r to ar y ffreutur yn mynd i eglwys arall yn y pen draw. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yn ystod y diddymiad pan werthwyd yr Abaty, cafodd rhannau o'r to eu tynnu oddi arno a'u cymryd i Eglwys y Santes Fair yng Nghilcain. Felly daeth rhagfynegiad Robin Ddu yn wir! Trysor wedi'i Gladdu Roedd merch o Dreffynnon, oedd yn byw yn Llundain, yn methu cysgu; oherwydd ei bod yn cael ei dychryn gan yr un weledigaeth bod nos, yn galw arni i fynd i Abaty Dinas Basing, lle, o dan garreg benodol, mewn lle penodol buasai'n darganfod rhywbeth o werth. Yn methu gorffwys, aeth i Ddinas Basing. Dywedodd ei stori wrth y tirfeddianwyr a gofynnodd am ganiatâd i chwilio am y peth dirgel yr oedd wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd. Ond ni chafod ganiatâd i gloddio. Fodd bynnag, ni wnaeth hyn ei hatal. Chwiliodd am y garreg ac o'r diwedd roedd hi'n gwybod ei bod wedi canfod y man iawn o'i breuddwyd. Aeth a saer maen i'w chynorthwyo i godi'r garreg a'i agor i ddatgelu trysor cyfrinachol. Y bore wedyn dychwelodd i Lundain, gan fynd â'r trysor gyda hi ac ni ddywedodd wrth neb beth oedd yno!
<-------- |
Main Index
| Mynegai