Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Damwain yr Heinkel

Damwain yr Heinkel

Wedi'u claddu o dan y tywod mae gweddillion awyren ymladd o'r Almaen.

Cychwynnodd yr Heinkel He 111P-4 ar Fai 7fed 1941 ar ei ffordd i Ddociau Lerpwl. Fe ollyngodd ei bomiau yn ôl y bwriad ond ymosododd ymladdwr nos o Sgwadron 256 arni ar yr hediad yn ôl ac aeth yr injan ochr dde ar dân.
Lladdwyd y tri awyrenwr yn y cefn ond llwyddodd y peilot a'r arsylwr i ddod allan a glanio mewn dŵr bas yn afon Dyfrdwy ger y Fflint.