Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn o amgylch arfordir Cymru gyfan, pellter o 870 milltir.
Mae rhan Sir y Fflint yn 25 milltir o hyd a gellir ei cherdded yn gyfforddus dros ddau neu dri diwrnod. Mae'n cychwyn ar ffin Cymru / Lloegr ychydig y tu allan i Gaer ac yn dilyn Aber Afon Dyfrdwy, llwybr teithio a masnach allweddol ers cyfnod y Rhufeiniaid.
Wrth i'r aber ledu mae'r golygfeydd yn dod yn fwy ysblennydd, gan newid bob dydd gyda'r llanw a'r tymhorau. O Bagillt gallwch edrych yn ôl tuag at y Fflint a gweld yr orsaf bŵer yng Nghei Connah a Phont Sir y Fflint neu allan heibio Ynysoedd Hilbre i'r ffermydd gwynt y tu draw.



