Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwaith Plwm Dee Bank

Sefydlwyd Gwaith Plwm Dee Bank tua 1750.

Cymerodd Walkers, Parker & Co y brydles drosodd ym 1834 ac erbyn 1841 roeddent wedi adeiladu gwaith mawr newydd ac wedi adeiladu'r lanfa ar y Gwter gyda siediau cymysgu a thrin plwm ychydig y tu ôl i'r lanfa. Yn 1848 cafodd mwy na chwarter yr holl blwm a gynhyrchwyd ym Mhrydain ei doddi yn Sir y Fflint gyda marchnadoedd yn cael eu cynnal bob yn ail pythefnos yn Nhreffynnon a'r Fflint. Erbyn 1891 Dee Bank oedd yr unig waith mwyndoddi yn dal i weithredu yn Sir y Fflint, gan gyflogi 144 o bobl.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwnaed arfau rhyfel yn Dee Bank ond erbyn diwedd y 1920au roedd yr holl waith plwm wedi cau ac roedd mwynyn cael ei yrru i St Helens neu Dde Cymru i'w fwyndoddi.