Adeiladwyd Mwyndoddfa Gadlys ym 1704.
Yn 1700 cafodd y London Lead Company, neu'r Quaker Company fel y'i gelwid, y prydlesi ar gyfer rhai mwyngloddiau plwm proffidiol ger Rhes-y-cae ar Helygain. Datblygodd y cwmni dechneg chwyldroadol ar gyfer mwyndoddi plwm gan ddefnyddio glo ac adeiladu Mwyndoddfa Gadlys, yn agos at byllau glo ac Afon Dyfrdwy a oedd yn hanfodol ar gyfer cludo. Gweithiodd y mwyndoddwyr yn galed o 6 y bore tan 6 y nos.
Fe wnaeth y cwmni hefyd wella technegau mireinio arian, gan ei gwneud hi'n economaidd hyfyw i fireinio mwyn plwm gyda chynnwys arian llawer is. Gwerthwyd arian o'r fan hon i'r Bathdy Brenhinol a gelwid y darnau arian wedi'u haddurno â phlu Cymru yn swllt y Crynwyr.
Cafodd Gwaith Plwm Gadlys ei ddymchwel ym 1786 ond parhaodd melinau mwyndoddi eraill i ffynnu, gan gynhyrchu plwm, arian a sinc. Yn 1833, cynhyrchodd 300 o weithwyr, yn gweithio mewn tri gwaith plwm ym Magillt, 100,000 tunnell o blwm y flwyddyn.
Cynyddodd y galw am sinc wrth i haearn galfanedig ddod yn fwy poblogaidd ac adeiladwyd gwaith sinc newydd ym Magillt yn yr 1840au.

