Saif Pwll Condi ar hen seidins rheilffordd y pwll glo.
Galwyd y pwll ar ôl Alex Condie a stociodd y pwll gyda brithyll yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r pwll yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt ond mae lefelau dŵr isel dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a chysgod trwm o'r coed cyfagos a lledaeniad Crassula wedi bygwth y cynefin pwysig hwn. Chwyn pwll anfrodorol yw Crassula sy'n ffynnu mewn dŵr cynnes, bas gan greu carped dros y dŵr yn gyflym a thaflu cysgod dros blanhigion eraill.
Dros aeaf 20/21 bu rheoli mawr ar y cynefinoedd i leihau’r coed sy’n crogi drosodd ac i gael gwared ar y Crassula er mwyn sicrhau dyfodol y pwll pwysig hwn. Gobeithio un diwrnod y caiff ei stocio â physgod eto.




