Mae Mandy Cartwright yn esbonio'r rhaglen ailgyflwyno ym Magillt. Pob delwedd trwy garedigrwydd ARC
Roedd llyffantod y twyni wedi diflannu ar hyd arfordir Gogledd Cymru oherwydd colli cynefin twyni. Fe'u hailgyflwynwyd yn llwyddiannus i Dalacre o Sefton ac maent wedi bod yn bridio yno ers 2001. Mae Talacre bellach yn safle rhoddwyr ar gyfer ardaloedd eraill ar hyd aber Afon Dyfrdwy gan gynnwys Bagillt.
Crëwyd tri phwll yn arbennig ar gyfer llyffantod y twyni ym Magillt a'r gobaith yw y byddant hefyd yn defnyddio pyllau naturiol yn y morfa heli yn y dyfodol.
Llyffantod y twyni gwrywaidd yn galw trwy garedigrwydd ARC




