Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Rhafflan Dee Bank

Rhafflan Dee Bank oedd yr hiraf ym Mhrydain, yn mesur 1100 troedfedd.

Roedd hon yn un o ddwy rafflan ym Magillt ac roedd yn ddiorchudd heblaw am adeiladau bychain ar y naill ben a’r llall. Credir bod rhaffau hirach ar gyfer llongau a mwyngloddio wedi'u gwneud yma tra bod y rhafflan fyrrach â gorchudd yn cynhyrchu rhaffau ar gyfer amaethyddiaeth a defnydd cartref.

Roedd angen rhaffau ar longau hwylio ar gyfer angorau a rigio - gallai un llong gario 35km o raff yn hawdd! Roedd angen rhaff hefyd i lwytho cargo ac yn y mwyngloddiau. Wrth i ddociau Bagillt dyfu mewn pwysigrwydd ac wrth i fwyngloddio ehangu, cynyddodd y galw am raffau. Roedd yn rhaid troelli ffibrau cywarch mewn llinellau syth i wneud rhaffau cryf ac yn aml roedd yn cael ei wneud yn yr awyr agored oherwydd y risg tân wrth gynhesu'r tar a ddefnyddid i wneud i'r rhaffau ddal dŵr.

Morlyn oedd yr ardal tanddwr wrth ymyl y rhafflan a ddefnyddiwyd yn wreiddiol wrth brosesu plwm ac yn ddiweddarach ar gyfer fflysio'r doc pan oedd yn gartref i lyswennod braf.

Gwneud rhaffau yn ffotograffau Bewdley © Casgliad Amgueddfa Bewdley