Mae Blaendraeth Bagillt yn cael ei reoli'n ofalus ar gyfer bywyd gwyllt a'r nifer fawr o bobl sy'n mwynhau'r ardal.
Mae rhai ardaloedd yn cael eu gadael yn hollol ddigyffro, gan ddarparu bwyd a lloches gwerthfawr i fywyd gwyllt.
Rhaid rheoli glaswelltir neu bydd yn troi'n brysgwydd yn gyflym. Mae cwningod yn chwarae rhan bwysig wrth gadw'r glaswellt yn fyr sy'n bwysig i degeirianau a blodau gwyllt eraill yn ogystal â phryfed. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf bydd mwy o laswelltir yn cael ei reoli trwy bori gan ei fod yn llawer mwy cynaliadwy na defnyddio peiriannau.
Plannwyd gwrychoedd a fydd yn y pen draw yn disodli llawer o'r ffensys tra bod ardaloedd coetir yn cael eu teneuo lle bo angen a'u tanblannu. Mae drain gwynion, prennau criafol ac afalau surion bach i gyd yn darparu lliw a ffrwythau derbyniol i adar a mamaliaid bach yn yr hydref.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint
Ewch i'n gwefan yma



