Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hanes Bagillt yn fyr

Roedd Bagillt yn borthladd prysur yn y 1700au a'r 1800au.

Ar un adeg deuai dros chwarter y plwm a gynhyrchwyd ym Mhrydain yma i gael ei fwyndoddi tra bod gan y pentref hefyd 11 o byllau glo, gwaith pres a chopr a rhafflan hiraf ym Mhrydain yn ôl y sôn.

Rhestrir Bagillt yn Llyfr Domesday fel Bachelie, sy'n golygu dôl Bacca ond mae preswylwyr eraill yn awgrymu ei fod yn dod o Baeddgwllt sy'n golygu'r baedd gwyllt.

Gerllaw mae Castell Hen Blas, a gaerwyd gan Harri II ar ôl Brwydr Coleshill ym 1157, ac yna'n gartref i Llywelyn Fawr ac yn fan geni ei fab, Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Cymru ym 1208.

Erbyn 1600 rhestrwyd Bagillt fel un o'r prif glofeydd ar hyd arfordir Sir y Fflint a ffynnodd masnach mewn glo i Iwerddon.

Datblygodd London Lead Company dechneg chwyldroadol ar gyfer mwyndoddi gan ddefnyddio glo ac adeiladu Mwyndoddfa Gadlys ym Magillt ym 1704, yn agos at y pyllau glo ac Afon Dyfrdwy a oedd yn hanfodol ar gyfer cludiant.

Eglwys y Santes Fair, a gysegrwyd ym 1839, oedd un o'r eglwysi cyntaf yn yr esgobaeth i gael ei goleuo gan nwy, a gyflenwyd yn rhad ac am ddim gan yr Old Lead Works Company wrth ymyl y fynwent.

Heddiw prin yw olion y diwydiant ac mae'r ardal unwaith eto'n hafan i fywyd gwyllt ac yn lle perffaith i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd gwych dros yr aber.