
Arall 
Buzzard 
Cerrig Cerrig 
Falcon tramor
Gellir gweld amrediad eang o adar ar y comin, gan gynnwys hebog tramor, bwncath, clochdar y cerrig a'r ehedydd.
Mae'r hebogiaid tramor yn nythu yn y chwarel ac weithiau fe'u gwelir yn hela am yr adar llai y maent yn eu hysglyfaethu. Maent yn adar chwim a chyflym iawn ac yn dal adar ar yr adain. Yn aml, gwelir bwncathod yn cylchdroi uwchben, yn hela am famaliaid bach ar y comin. Mae ehedyddion yn nythu ar y comin. Gwrandewch am eu cân hyfryd wrth iddynt godi'n uchel i'r awyr. Gellir adnabod y clochdariaid y cerrig bach yn hawdd oddi wrth eu galwad nodedig, fel dwy garreg fechan yn cael eu taro gyda'i gilydd.