Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pyllau ar y Comin

Gwrando

Mae Rachael Watson yn esbonio pam fod y pyllau yn arbennig

Mae'r pyllau ar draws Mynydd Helygain yn gynefinoedd gwych ar gyfer amffibiaid, gan gynnwys y madfallod dŵr cribog prin. Mae niferoedd y madfallod mawr hyn yn gostwng ledled Prydain ac Ewrop ond Mynydd Helygain yw un o'r ychydig leoedd ble maent yn dal yn gymharol gyffredin.