Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Sant Mihangel

Cysegrwyd Eglwys Sant Mihangel ddydd Mawrth 12 Gorffennaf, 1853

Ymgymerodd tirfeddianwyr lleol yr Arglwydd a'r Fonesig Feilding i adeiladu eglwys ym Mhantasaph ond fe droeson i Gatholigiaeth Rufeinig ychydig cyn i'r adeilad gael ei gwblhau. Bu anghydfod chwerw wedyn ac yn y diwedd roedd yn rhaid i Esgob Llanelwy ildio hawl yr Eglwys Sefydledig ar yr adeilad newydd.
Lansiwyd apêl ac yn fuan roedd £10,806 wedi ei godi gan bobl leol - digon i adeiladu Sant Mihangel ym Mrynffordd a Sant Paul yn yr Orsedd, yn ogystal â'r ysgolion cyfagos a ficerdai.

Gwrando

Mae Ann Killa yn cofio mynd i'r eglwys fel plentyn.