
Capel Calcoed yw'r unig un o'r pedwar capel a wasanaethodd y boblogaeth o fwynwyr, ffermwyr a chwarelwyr yn ardal Brynffordd yn y 1800au sy'n dal i groesawu addolwyr heddiw.
Cynhaliwyd y cyfarfodydd Methodistiaid cynnar yn nhai John Llwyd neu Edward Jones ond tyfodd y gefnogaeth a chafodd y capel cyntaf, o'r enw 'Y Rhos', ei agor ym 1838. Defnyddiwyd y capel bach hwn am dros 50 mlynedd ond wrth i'r gynulleidfa dyfu, roedd angen capel mwy a chafodd y capel presennol ei adeiladu a'i agor ym 1891.
Mae Glenys Evans wedi mynd i Gapel Calcoed drwy gydol ei hoes. Priododd ei rhieni yno a chynhaliwyd ei phriodas hi a'i gŵr Tom yno yn 1960 ac maent yn dal i addoli yno yn rheolaidd.
Fel plentyn roedd hi'n mynd dair gwaith y dydd, yn mynd i Ysgol Sul yn y bore, gwasanaeth am 2.30pm, ac yna'n ôl am yr Oedfa Nos am 6pm. Rhwng y gwasanaethau, ni chaniateid iddynt wneud llawer o sŵn, felly roedden nhw'n mynd am dro neu eistedd a chwarae'n dawel ar ddarn bach o dir wrth y tŷ.