
Enwyd Naid y March am fod naid 25 troedfedd ar gefn ceffyl ar draws siafft mwynglawdd dwfn wedi digwydd yn ôl pob tebyg.
Y chwedl yw bod Thomas Ap Harri yn marchogaeth adref o daith hela gyda'i ffrindiau ar Fynydd Helygain yn gynnar yn y 1500au, pan fetiwyd na allai o a'i geffyl neidio un o'r nifer fawr o dyllau mwyngloddio oedd ar hyd yr ardal.
Roedd Thomas ddewr, efallai dan ddylanwad diod, yn barod i wynebu'r her, ac fe hedfanodd o a'i geffyl ffyddlon yn glir ac fe gafodd y gamp ei choffáu wedyn gan ddau faen hir a godwyd 25 troedfedd ar wahân i nodi lle cododd a glaniodd o a'i geffyl.
Codwyd dwy garreg fawr lle wnaeth Thomas a'i geffyl neidio dros y siafft i nodi ei gyflawniad i'r oesoedd a ddel.