Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Odynau calch Waen y Brodlas

Odynau calch Waen y Brodlas

Cynlluniwyd y bloc o bum odyn masnachol mawr yn Waen y Brodlas ar gyfer allbwn uchel.

Y chwarel y tu ôl i'r odynau hyn oedd prif gyflenwr calchfaen 'Aberdo' yn Sir y Fflint. Mae'r graig hon yn cynhyrchu calch hydrolig sy'n caledu o dan ddŵr, yn ddeunydd adeiladu hanfodol ar gyfer goleudai, pontydd a dociau. Mae'n debyg y defnyddiwyd calch hydrolig o'r odynau hyn i adeiladu rhai o ddociau Lerpwl a Phenbedw yn ogystal â phontydd Menai a Runcorn.

Adeiladwyd yr odynau hyn yng nghanol y 19eg ganrif mewn tri cham. Mae'r odynau hynaf ar y chwith. Roedd odynau ychwanegol yn golygu mwy o effeithlonrwydd, gan gadw'r dynion yn brysur drwy'r amser. Yn wreiddiol, roedd certiau yn cario'r calch i'r ceioedd ar Afon Dyfrdwy yn Bagillt, y Fflint neu Dreffynnon a dychwelyd yn cario llwyth o lo. Yn ddiweddarach defnyddiwyd Rheilffordd Caer i Gaergybi.

Dyluniwyd yr odynau fel ei bod yn hawdd llwytho'r deunyddiau crai - glo a chalchfaen - i ben y odyn a dadlwytho'r calch o'r gwaelod. Roedd cragen allanol yr odynau yn garreg leol ond wedi'u leinio â brics tân i wrthsefyll y gwres dwys gan y gallai'r odynau hyn losgi am sawl mis.

Daeth cynhyrchu calch i ben ym 1914, a dirywiodd yr odynau. Fe'u hadferwyd yn 2013 gyda chyllid o Gronfa Ardoll Agregau a Chadwyn Clwyd.