
Roedd Henry Morton Stanley, y fforiwr Fictorianaidd, yn athro ddisgybl yn Ysgol Brynffordd yn 15 oed.
Ganed Stanley ym 1841 fel John Rowlands yn Ninbych. Roedd ei fam yn 18 oed ar y pryd a chafodd Stanley erioed adnabod ei dad, am iddo farw o fewn ychydig wythnosau o'i eni. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar gyda'i daid ar ochr ei fam, ond bu o farw pan oedd John yn bump oed. Fe'i hanfonwyd i Dloty'r Undeb yn Llanelwy lle roedd gorboblogi a diffyg goruchwyliaeth yn arwain at fwlio a cham-drin.
Ym 1856 daeth i ysgol Brynffordd i hyfforddi fel athro disgybl ond erbyn 18 roedd wedi gadael am America. Ar ôl ymladd yn Rhyfel Cartref America, daeth yn newyddiadurwr. Fel gohebydd arbennig i'r New York Times, fe'i comisiynwyd i fynd i Affrica a chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr o'r Alban, David Livingstone, a oedd wedi bod ar goll ers 1866 pan aeth i ffwrdd i chwilio am ffynhonnell yr afon Nîl. Daeth o hyd i'r cenhadwr sâl yn Tangynika, gan ei gyfarch gyda'r geiriau enwog "Dr Livingstone, yr wyf yn tybio". Aeth ymlaen i barhau i archwilio canol Affrica a bu'n paratoi'r ffordd i greu Gwladwriaeth Rydd y Congo.