

Chwaraeodd tad Ron ar gyfer Brynford FC yn y 1940au 
Y teulu Davies. Mae Ron ar y dde. 
Roedd Ron yn arlunydd da ac roedd yn hoffi tynnu cartwnau o chwaraewyr eraill
Roedd Ron Davies, un o sgorwyr goliau mwyaf toreithiog ei gyfnod, yn ddisgybl yn Ysgol Brynffordd ddiwedd y 1940au a'r 50au.
Yn 1998 llwyddodd disgyblion i ddod o hyd i Ron yn Florida. Roeddent wrth eu bodd pan atebodd Ron nhw, gan anfon lluniau, llofnodion a llythyr teimladwy.
"Mae pêl-droed wedi rhoi llawer gwefr i mi yn fy mywyd. Un o'r gorau oedd sgorio'r bedair gôl yn erbyn Manchester United yn Old Trafford ym 1969 a'r wasg yn barnu mai fi oedd ymosodwr gorau Ewrop y diwrnod canlynol. Roedd ennill gwobr yr Esgid Aur ddwy flynedd yn olynol yn un arall ond y wefr fwyaf oedd cynrychioli fy ngwlad. Chwaraeais i Gymru 30 gwaith ac roedd bob tro yn atgof arbennig, uchafbwynt breuddwydion pob pêl-droediwr.
Rwy'n aml yn meddwl yn ôl i'm dyddiau yn yr ysgol ym Mrynffordd ac yr holl oriau o ymarfer wnes i yn chwarae pêl-droed yn yr iard. Ni allaf gofio faint o weithiau y bu'n rhaid i mi neidio dros wal yr ysgol i adfer fy mhêl o'r fynwent, er mawr anfodlonrwydd y torrwr bedd!"
Mae un o'r trigolion lleol Dewi Redfern-LloydJones, yn cofio cyfarfod Ron Davies a chlywed pobl leol yn siarad am ei allu pêl-droed.