Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pwll Y Trap

Mae'r rheswm dros ei enw yn aneglur, er bod digon o ddamcaniaethau. Y pwll oedd y twll clai ar gyfer Gwaith Brics Catherall & Co., yr hynaf ym Mwcle (cyn 1760 - 1985).

Ym mis Mai 1941 cafodd bomiwr Henkel Almaenaidd, ar ei ffordd I Lerpwl, ei daro I lawr mewn cae yn Ewloe Place gan achosi difrod i sawl tŷ, ac anaf ysgafn i sawl person (er i un ddynes golli llygad). Gwasgarwyd shrapnel dros ardal eang, gan gynnwys i mewn i'r Pwll. Arestiwyd y peilot.

Mae Cymdeithas Bysgota Bwcle, a sefydlwyd ym 1947, bellach yn berchen ar ac yn rheoli'r safle ar gyfer pysgotwyr a bywyd gwyllt.