
Y fynedfa wreiddiol - Brookhill Way, Pinfold Lane 1965 
Ystad Ddiwydiannol Pinfold 2002 
Bwrdd Gwybodaeth Pinfold 2003 
Mynedfa Ystad Ddiwydiannol Pinfold 2020
Heddiw mae'r ystâd yn gartref i ystod o fusnesau mewn unedau modern. Ar un adeg, roedd yn safle i ddau o waith brics Bwcle.
Catherall & Co. oedd y cynharaf i gael ei sefydlu (cyn 1760 - 1985). Ei dwll clai bellach yw'r Pwll Trap. Mae pobl leol yn dal i alw'r safle yn “Catherall's” fel y gwelir wrth yr arwydd.
Rheolwyd Buckley Brick and Tile Co., Brookhill, gan yr Uwchgapten John Merriman Gibson (1841 - 1927). Bu'n gweithio rhwng 1865 a 1961. Roedd dyfodol gwahanol iawn i’w dwll clai gan ei fod wedi gweithredu ers sawl blwyddyn fel safle sbwrriel.
Dilynwch y ffordd trwy'r ystâd a'r llwybr ar y diwedd, gan gadw’r safle sbwriel ar eich chwith, ac fe gyrhaeddwch yr hen reilffordd, sydd bellach yn llwybr troed. Os trowch i'r dde byddwch yn cyrraedd Liverpool Road. Ar y dde, fe welwch ugain o byllau, a sefydlwyd i wneud yn iawn am newid defnydd twll clai Brookhill yn safle sbwriel.