Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Comin Canol

C. 1967 - 70, rhoddwyd caniatâd i Gwmni Brics Tân y Castell dynnu wyth troedfedd o glai o'r wyneb i'w ddefnyddio yn y Gwaith Brics Llwyfen gerllaw, fel y gwelwch yn y llun uchod. Fel yn y comin uwch, gadawodd hyn dir diffaeth ar ei ol. Yn raddol tyfodd glaswellt a phrysgoed dros yr ardal. Erbyn hyn mae llawer o lwybrau’n croesi’r comin ac mae'n boblogaidd gyda cherddwyr cŵn ac yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw un sydd am lwybr byr.