Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Comin Isaf

Dynodwyd y Comin yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), fel yr amlinellir yn yr adran Bywyd Gwyllt. Mae gan y comin amrywiaeth gyfoethog o fflora ac mae'n cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint fel prysgwydd / rhostir, a thir glaswellt er mwyn cynnal ei amrywiaeth. Mae ganddo byllau sy'n safleoedd bridio ar gyfer pob un o dri madfallod Prydain. Mae ganddo hefyd bocedi bach o goetir. Mae gloÿnnod byw, gwyfynod, gwenyn a phryfed eraill sy'n ddibynnol ar y planhigion. Golygfa arbennig o brydferth yw'r toreth o degeirianau ym mis Mehefin a’r clafrys y cythraul yn mis Awst/Medi.