Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Twr y Cloch a'r Cloc

Erbyn 1901/2 roedd y twr yn beryglus a bu rhaid ymgymeryd a gwaith i’w atgyfnerthu. Yr uchder gwreiddiol oedd 90 troedfedd 10 modfedd; cafodd ei ostwng i 56 troedfedd ac yna codwyd ef at 72 troedfedd (gan gynnwys oddeutu 3 troedfedd o furfylchau). Nid oes cofnod swyddogol o'i uchder presennol. Cafodd y twr newydd wyth o glychau newydd a cysegrwyd y gwaith yn mis Gorffennaf 1902, pan ymunodd Band Brenhinol Tref Bwcle yn yr achlysur. Gwnaethpwyd y clychau gan John Taylor and Co. o Loughborough. Daethant ar y trên i orsaf reilffordd Padeswood ac yna mewn trol i'r eglwys. Dathlodd canwyr clychau eglwys St Mathew y canmlwyddiant yn 2002.

Cafodd y cloc ei wneud a'i osod ym 1904 gan Smiths o Derby yn ystod yr adnewyddiad mawr. Roedd y cloc yn dilyn dyluniad yr Arglwydd Grimthorpe, oedd hefyd yn gyfrifol am ddyluniad y cloc sydd yn nhŵr cloc Tŷ’r Cyffredin. Mae'n gloc tri symudiad - un i’r amser, un ar gyfer y chwarter awr a'r trydydd I daro’r awr. Ym 1984, cafodd y mecanwaith ei drydaneiddio, sydd wedi dileu llawer os nad yr holl waith sy'n ofynnol i sicrhau bod y cloc yn gywir.

Ym 1997, dyfarnwyd statws rhestredig Gradd II i borth y fynwent gan CADW, gan ei chynnwys fel grŵp gyda'r Eglwys.