
Ail Raglaw Frederick Birks VC, MM 
Arysgrif ar y gofeb 
Frederick Birks VC, Senotaff MM yn iard Ysgol Saint Matthew 1965 
Arysgrif ar gofeb Frederick Birk
Yr Ail Is Gapten Frederick Birks VC MM 16.8.1894 - 21.9.1917
Dadorchuddiwyd y gofeb ar 6 Chwefror 1921. Wedi'i lleoli'n wreiddiol y tu allan i Ysgol Mathew, fe'i symudwyd yr ychydig lathenni i'w safle presennol pan ddymchwelwyd yr ysgol. Mae'n nodi “Codwyd y senotaff hwn gan hen ysgolheigion a ffrindiau er cof balch o'r anrhydedd mawr a roddodd i'w ysgol.”
Yn enedigol o Garden Cottage, Lane End, ymfudodd Fred Birks i Awstralia ym 1913. Yn dilyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf roedd Fred yn un o'r recriwtiaid cynharaf, i gofrestru ar y 18 Awst 1914. Fe'i gosodwyd fel cludwr cludwlau yn yr 2il Ambiwlans Maes, 2il Frigâd. Adran y Milwyr Traed 1af.
Ar ddau achlysur, sef ar y 25 Ebrill ac ym mis Mai 1925 yn Gallipoli danghosodd Fred ymddygiad rhagorol ac argymhellwyd iddo gael Medal Filwrol am ei ddewrder. Ni chafodd ei ddyfarnu ar yr achlysur hwnnw. Cyrhaeddodd ei Fataliwn Ffrynt y Gorllewin yn mis Mawrth 1916. Enillodd ail argymhelliad oherwydd dewrder ar 26 Gorffennaf a’r tro hwn fe ennillodd ei Fedal Milwrol.
Ym mis Rhagfyr 1916, aeth ar wyliau i Fwcle, gan ymweld â'i hen ysgol, achlysur a gofiwyd gan y disgyblion niferus a oedd yn bresennol.
Ar 21ain Medi 1917, yng Nghoed Glencorse ger Ypres, ar ôl cael ei ddyrchafu'n Is- Lefftenant, cafodd ei ladd wrth ei bost gan belen dan. Roedd yn 23 oed.
Mae'r argymhelliad yn darllen:
“Yn ystod yr ymgyrch i ymestyn y ffin ger Coed Glencorse i'r Dwyrain o Ypres ar 20 Medi, 1917, rhuthrodd y swyddog hwn, gyda dim ond un corporal arall yn gwmni, un pwynt cryf oedd yn dal yr ymgyrch yn ol. Cafodd y corporal ei anafu, ond aeth Is-Lefftenant Birks yn ei flaen ar ei ben ei hun, gan ladd yr Almaenwyr oedd ar ol a chipio peiriant saethu. Yn fuan wedi hynny trefnodd barti bach ac ymosod ar bwynt cryf arall oedd dan feddiant oddeutu 25 o Almaenwyr; ar ôl lladd nifer o'r rhain llwyddodd y parti i ddal Swyddog a 15 o filwyr. Yn ystod yr atgyfnerthu, gwnaeth y Swyddog hwn waith ardderchog yn ad-drefnu partion o unedau eraill a oedd wedi colli trefn trwy fynd yn rhy agos at amddiffynfa eu milwyr eu hunain. Trwy ei hunanfeddiant a'i ddewrder personol, llwyddodd i gadw ei ddynion mewn hwyliau drwy’r cwbl. Lladdwyd 2/Lt BIRKS wrth ei safle gan belen dan ar fore'r 21ain o Fedi. Roedd ar y pryd yn sefyll mewn man agored yn ymdrechu i ryddhau rhai o’i ddynion oedd wedi eu claddu gan belen dan."