Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Fynwent

Roedd y fynwent wreiddiol yn ymestyn i'r dwyrain cyn belled â’r llwybr ochrol a’r llinell coed. Yn ddiweddarach, cafodd ei ymestyn i'w ffin bresennol. Yn 1899, cafodd ei lefelu, ei dacluso a'i blannu â choed a llwyni.

Mae carreg fedd seramig unigryw o grochenwaith Bwcle - bedd y plentyn Mary Hannah Krohn (1.1874 - 8.1876). Yr oedd ei thad William yn grochenydd o'r Almaen fu’n gweithio am gyfnod byr ym Mwcle. Mae pedair ochr i ben ei chofeb ac mae rhesi o tiwlipau arni sy'n arwain at groes ar ei hanterth ac mae’r sgwar ar ei waelod yn cynnwys arysgrif i'w chof. Mae enghreifftiau eraill o gerrig beddi ceramig ym mynwent yr eglwys yn dyddio o’r 1820au.

Mae yna ugain o gerrig beddi i goffáu'r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a dau o’r Ail Ryfel Byd. Mae rhain yn bennaf ar feddau teulu. Hefyd, mae bedd Horace Enfield Simmons, MC, DFC, MA, a oedd yn gurad yn St Mathew (1926 - 1932) ac a gafodd record filwrol nodedig o'r Rhyfel Byd Cyntaf. I goffáu’r rhai fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gorchuddiwyd y wal o flaen Cofeb Rhyfel Calfaria yn 2018 gyda arddangosfa o bopïau wedi'u gwau â llaw a'u crosio.

Yn ddiweddar dynodwyd un adran yn ardal gadwraeth - mae llaw ysgafn cynnal a chadw mewn mynwentydd dros nifer o flynyddoedd wedi arwain at ddatblygiad o amrywiaeth gwerthfawr o blanhigion ac anifeiliaid. Bydd y gwaith hwn yn parhau gyda chymorth a chyngor Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Cysegrwyd y porth y fynwent yn 1901. Codwyd fel cofeb i ddechrau'r ugeinfed ganrif gyda dros 800 o blwyfolion yn cyfrannu drwy danysgrifiad I godi £145.7.11