
Roedd Jonathan Catherall II yn un o brif ddiwydianwyr Bwcle ac hefyd yn flaenllaw gyda’r anghydffurfiwyr lleol. Mewn partneriaeth â'i fam bu’n rhentu y tŷ a adnabyddir heddiw fel tafarn yr Hope and Anchor ac yn 1786 dau grochenwaith yn yr ardal honno. Bu Gwaith Brics Catherall, Brookhill yn llwyddianus ac yn 1792, priododd ac adeiladodd Hawkesbury Hall fel cartref i’r teulu. Symudodd yno yn 1801.
Cafodd y clod am agor yr ysgol Sul cyntaf ym Mwcle gyda'i ddwy ferch yn athrawon yno.
Roedd yn anghydffurfiwr ymroddedig, a sefydlodd y man cyfarfod cyntaf i’r Eglwys Gynulleidfaol (yn ddiweddarach yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) mewn sied oedd yn perthyn i’r crochenwyr. Ers hynny mae’r eglwys wedi cael tri adeilad ar y safle yn Hawkesbury Road. Cafodd y cyntaf ei enwi yn “Keetra’s Chappa” ar ôl ei sylfaenydd. Mae ei garreg fedd ym Mynwent Eglwys Ddiwygiedig Unedig Sant Ioan.