Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Clochdy Jonathan Catherall

Gwrthododd yr Eglwys Sefydledig roi caniatad iddynt ganu cloch i wahodd i gynulleidfa i’r gwasanaethau ar dir yr eglwys. Er gwaethaf hyn cafodd Jonathan Catherall ganiatad gan y senedd i adeiladu ei glochdy ei hunan ac adeiladwyd hwn yn 1813 ae ei dir ei hunan yn agos at ei dy ac at y capel a canwyd y gloch oddi yno.

Cafodd ei ddymchwel ym 1952 er mwyn clirio’r safle ar gyfer Ysgol Elfed. Roedd gwrthynebiad cryf i hyn ond gosodwyd plac yn ei le. Ymhellach ymlaen, cafodd y plac ei symud i’r Ardd Goffa.