
The Little Theatre ar ôl adnewyddiad 2001 
Golygfa o Sailor Beware! Gorffennaf 2002
Yn wreiddiol, enw Clwb Theatr Bwcle oedd Clwb Drama Bistre, a ffurfiwyd ef yn 1957 gan Donald Jones. Roedd yn perfformio yn Ystafelloedd y Plwyf yn Lane End. Heddiw fel Clwb Theatr Bwcle, mae'n perfformio pantomeimiau a dramau. Symudodd i’r Theatr Fach yn 1984 pan adeiladwyd y ganolfan gymunedol newydd. Wedi sicrhau prydles tymor hir gan y cyngor sir yn 2001 ‘roedd cyfle i wneud llawer o welliannau i'r adeilad gan gynnwys gwres canolog, toiledau newydd a chyfleusterau cegin. Yn 2017 gosodwyd goleuadau llwyfan LED ac yn 2018 seddi newydd.
Yn dal i berfformio dramâu a phantomeimiau, mae'r Clwb yn croesawu aelodau newydd ac, wrth gwrs, ei gynulleidfaoedd.