Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Knowl Hill

Gallwch fynd at Knowl Hill o Army Lane a cherdded yn syth drwodd i Drury Lane gan basio'r tai a'r ardaloedd lliniaru bywyd gwyllt ar eich chwith. Mae cyfres o lwybrau bellach yn croesi'r ardal, heddiw ond meant wedi gordyfu gyda choed a phrysgwydd.

Nid oes llawer yn dal o'r hyn a oedd yn fryn sylweddol wedi'i orchuddio â grug ers i'r gwaith brics cyfagos ehangu y twll clai; fel y gwelwch wrth edrych ar rai o’r lluniau uchod, roedd golygfeydd helaeth o gopa’r bryn. Wedi’r cyfnod diwydiannol datblygodd yr ardal fel lle poblogaidd I bobl Bwcle fwynhau gweithgareddau hammden - hedfan barcud, cerdded, braslunio ac ati.

Yn ystod anterth gwaith brics Hancock roedd yn lle prysur gyda tramffordd yn rhedeg o'r brif reilffordd i'r gwaith brics trwy linell ddolen a oedd yn rhedeg trwy dwnnel. Wedi i’r twnnel a’r tramffordd syrthio’n segur roedd yr ardal wedi tyfu’n wyllt, ond dan arweiniad James Bentley, llwyddodd nifer o archaeolegwyr amatur brwdfrydig, gloddio llawer o'r ardal, gan gynnwys y traciau i mewn i'r twnnel.
Roedd gan y twnnel dair siafft awyru yn ei do: hoff ddifyrrwch bechgyn lleol oedd hyrddio pethau lawr y siafftau ar ben y gweithwyr oddi tano - nes iddyn nhw gael eu dal a'u cosbi'n ddifrifol.

Yn yr 1980au a'r 90au, gosododd James Bentley fyrddau gwybodaeth anffurfiol, yn disgrifio hanes y safle ond bu'n rhaid cael gwared ohonynt oherwydd fandaliaeth.

Unwaith eto mae'r ardal wedi tyfu’n wyllt ond gellir dod o hyd i olion pryfoclyd o'r diwydiant a fu unwaith mor bwysig yma.