Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gerddi' Coroni a Maes Canmlwyddiant

Sefydlwyd y Gerddi ym mis Mai 1953 trwy ymdrech gwirfoddolwyr yn gymunedol ac yn ariannol. Ychydig cyn Diwrnod y Coroni ar 2il Mehefin, plannwyd bron i ddwy fil o rosod coch, gwyn a glas.

Ar 21 Medi 1918, cynhaliwyd digwyddiad coffa i ddynodi'r Gerddi yn Gae Canmlwyddiant er anrhydedd i'r Ail Raglaw Frederick Birks VC MM. Gosodwyd carreg goffa yn ei enw fel rhan o fenter genedlaethol i anrhydeddu a chofio am y 628 o filwyr a ddyfarnwyd Croes Victoria iddynt yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ym mis Mai 2019, caewyd Eglwys Fethodistaidd Bistre, Lane End, adnewyddwyd a gosodwyd ei chofeb ryfel, a oedd gynt wedi'i lleoli o flaen yr Eglwys, yn y Gerddi fel y gallai teuluoedd barhau i ymweld a thalu eu parch. Cynhaliwyd gwasanaeth cysegru ar y 30 Hydref.