Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Clwb Criced Bwcle

Sefydlwyd y Clwb ym 1898, er roedd timau o lowyr a gweithwyr brics wedi chwarae’n anffurfiol ers i’r gêm ennill poblogrwydd ychydig ddegawdau ynghynt. Darparwyd y tir ar gyfer y cae gan Thomas Lindop o Bannel Bridge Farm, oedd yn gefnogwr brwdfrydig o’r gêm. Pencadlys y clwb am ddegawdau lawer oedd The Feathers Inn, Lane End, sydd bellach wedi'i ddymchwel.

Cafodd y clwb achrediad ECB Clubmark yn 2012 ac mae'n croesawu aelodau newydd. Ar hyn o bryd mae pedwar tîm ar gyfer oedolion a pedwar tîm ar gyfer yr ieuenctid yn chwarae yng Nghynghrair Criced Gogledd Cymru.