
Mae Aerated Water Gregory yn Gweithio gydag Ysgol Lane End yn y blaendir 
Casgliad o boteli Dŵr Aerated Gregory 
Agorwr poteli 

Paentiad gan y diweddar James Bentley
Y teulu Gregory oedd yn gweithredu’r busness hwn o tua 1888 i tua 1942. Roedd y teulu yn chwarae rhan flaenllaw yn y gymuned leol. Roedd y dwr yn cael ei ddarparu o Fryniau Clwyd a Moel Fammau. Cynhyrchodd y cwmni amrywiaeyh o “ddyfroedd awyredig pefriog” o wahanol flasau ynghyd â chwrw sinsir. Roedd y poteli yn cael eu gwneud a’u golchi ar y safle a’u danfon i gwsmeriaid o fewn radiws o ddeg i bymtheg milltir, ac, yn y dyddiau cynnar, gyda cheffyl a throl. Yn ddiweddarach adeiladwyd ffatri fach ar gyfer piclo ac ‘roedd yn cynhyrchu sawsiau, picalili yn ogystal â nionod wedi'u piclo. Roedd yn rhaid i weithwyr wisgo masgiau o wifren a menig gwlân wrth brosesu'r poteli gan fod peryg iddynt ffrwydro.
Eu cymydog agos oedd Ysgol Lane End a gafodd achos i gwyno'n aml am y mwg, yr arogleuon llethol a llawer I ddiflastod arall dros y blynyddoedd. Weithiau roedd y mwg mor ddrwg, fel na allai’r athro weld y plant yng nghefn y dosbarth ac ‘roedd yr arogleuon a'r tawch mor bwerus fel bod pawb yn dechrau teimlo'n gysglyd.
Yn 1942/3, cymerodd cwmni o Lundain y gwaith drosodd am gyfnod byr. Cafodd yr adeiladau eu dymchwel ym 1962, ac ar ôl hynny daeth Gorsaf Petrol Ffordd Caer. Mae byngalo modern bellach ar y safle.