Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Ffowndri neu'r Smelt

Adeiladwyd yn 1792 gan y diwydiannwr John “Iron Mad” Wilkinson i brosesu'r mwyn plwm o'i fwyngloddiau yn Llyn-y-Pandy ger yr Wyddgrug. Roedd y ‘smelt’ yn strwythur siâp côn 18 metr o uchder wedi'i wneud o ryw 130,00 o friciau Bwcle wedi eu gwneud a llaw. Bu’n adeilad amlwg iawn ym Mwcle am gyfnod a bu sawl perchenog cyn iddo gael ei ddymchwel yn 1966.

Cynhyrchwyd peli canon ac ergyd plwm yma fel y gwelir yn un o'r lluniau uchod. Mae’r lleiaf a diamedr 1 3/4 ”ac mae'n pwyso 15 owns: mae’r mwyaf a diamedr o 2” ac mae’n pwyso 1 pwys 4 owns. - arfau aruthrol yn wir.

Ym 1933 cymerwyd y ‘Smelt' drosodd gan y ‘Buckley Foundry Ltd’. Bu’r cwmni yn gyfrifol am adailadu ffatrïoedd a swyddfeydd mwy modern. Yn ei flynyddoedd olaf cynhyrchodd gastiau bach o ansawdd uchel. Caeodd y ffowndri yn 2006 ac adeiladwyd Wilkinson Court ar y safle.

Roedd John "Iron-Mad" Wilkinson (1728 - 1808) yn ddiwydiannwr Seisnig, dyfeisiwr o fri, a cafodd ddylanwad arbennig ar ein hanes diwydiannol. Datblygodd y broses o gynhyrchu haearn bwrw a'r defnydd o nwyddau haearn bwrw yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae'n fwy adnabyddus fel perchenog Gwaith Haearn Bersham.

Byddai ‘r gweithwyr yn cael eu talu’n rhannol gyda tocynnau masnach. Gweler yr esiampl uchod a’r dyddiad 1787. Daeth y tocyn yma i’r amlwg mewn gardd yn Nant Mawr. Roedd yn rhaid i’r gweithwyr wario’r tocynnau yn adeiladau Wilkinson. Bathwyd y tocynnau chwech o weithiau rhwng 1787 a 1795 felly mae’r tocyn uchod yn un o’r rhai cynharaf.

Isod mae pennill a gyhoeddwyd yn y New London Magazine yn yr un flwyddyn ag y cofnodwyd y tocyn.

“In Greece and Rome your men of parts,
Renowned in arms, or, formed in arts,
On splendid coins and medals shone
To make their deeds and persons known.
So, Wilkinson, from this example
Gives of himself a matchless sample.
And bids the ‘Iron Monarch’ pass
Like his own metal wrapt in brass !
Which shows his modesty and sense
And how and where he made his pence !
As Iron when ‘tis brought in traction
Collects the copper by attraction
So, thus in him ‘twas very proper
To stamp his brazen face .... on copper."

Jonathan Rowlands 1848 - 1917
Jonathan Rowlands 1848 - 1917

Nid John Wilkinson oedd yr unig beiriannydd arloesol i fod yn berchen ar y ‘Smelt’. Roedd Jonathan Rowland yn beiriannydd ac yn arloeswr yn Ffowndri Haearn a Phres Bwcle (tua 1868/70). Yma dyluniodd a gwnaeth beiriannau wedi eu harchebu ar gyfer nifer o fusnesau amrywiol, gan gynnwys rhai o dramor. Roedd yn cael ei adnabod fel y Buckley Pioneer oherwydd hyn. Dyluniodd a gwnaeth y peiriant gwneud brics cyntaf ar gyfer clai Bwcle a llwyddodd lle roedd gwnethurwyr allanol wedi methu. Roedd un yn cael ei ddefnyddio yn ‘Lane End Brickworks’ nes iddo gau.