Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Cloc Jiwbilî Arian 1910 - 1935

Gosodwyd y cloc i ddathlu Jiwbilî Arian y Brenin Siôr V. ‘Roedd yn rhodd gan Catherine Dobson er cof am ei diweddar dad, Jonathan Catherall 1860 - 1933, cyn gynghorydd a chymwynaswr y dref, a elwir yn “dad Cyngor Dosbarth Trefol Bwcle”.

Roedd yn un o ddisgynyddion Jonathan Catherall II a oedd yn un o arloeswyr diwydiant brics Bwcle. Gwasanaethodd ar y cyngor am 34 mlynedd: roedd yn Henadur Cyngor Sir y Fflint, YH dros Sir y Fflint, yn gadeirydd mainc ynadon lleol, yn aelod o Fwrdd Ysgol yr Wyddgrug, ac yn llywodraethwr Ysgol Sir Hawarden, ymhlith swyddfeydd eraill.

Yn 2007, trefnodd Cyngor Tref Bwcle i atgyweirio’r cloc a'i adnewyddu ar gost o £5000.