Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Band Brenhinol Tref Bwcle

Band Tref Bwcle Brenhinol yn Llandudno 2014

Wedi'i ffurfio ym 1822, mae Band Tref Brenhinol Bwcle (RBTB) yn un o'r bandiau pres hynaf yn y wlad, ac yn brysur agosáu at ei ganmlwyddiant dwbl. Yn wreiddiol roedd yn ensemble pres a phibau ac un o'i ymrwymiadau cyntaf oedd cymryd rhan yn yr orymdaith o Hawarden i Fwcle ar gyfer y seremoni I osod cerrig sylfaen Eglwys Sant Mathew ym 1822.

Mae'n debyg bod y Band wedi cael statws Brenhinol c.1889 - 1900.

Dros y blynyddoedd mae'r Band wedi chwarae ledled y wlad ac hefyd yn rhyngwladol. Yn benodol, mae gan y Band gysylltiadau cryf â band yn Cerveny Kostelec , Tsiecoslofacia. Mae wedi derbyn llawer o wobrau.
Ei ganolfan a'i ystafell ymarfer yw'r Hen Orsaf Dân tu cefn I Swyddfeydd Cyngor Tref Bwcle, lle mae'r pedair adran yn ymarfer yn rheolaidd, gydag aelodaeth o dros 60 ar hyn o bryd: yn ychwanegol at yr RBTB mea Band Pres Bwcle, Band Ieuenctid a Band Pres Hŷn. . Mae ganddo ‘repertoire’ amrywiol iawn o'r traddodiadol i'r pop. Mae'n cymryd rhan yn Jiwbilî Bwcle ac mae'n bresennol yn y Ganolfan cyn y Nadolig yn difyrru siopwyr trwy chwarae amrywiaeth o garolau.

Mae'n croesawu aelodau newydd.