Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Llinell Amser Cyngor Dosbarth Trefol Bwcle 1897 - 1974

1897 - sefydlwyd BUDC. Roedd yr ardal gynt yn rhan o ardaloedd Treffynnon a Hawarden; ac yn ymgorffori dau blwyf Bwcle a Bistre.
Roedd un swyddog cyflogedig yn rheoli'r tri pwyllgor : cyllid, glanweithdra a phriffyrdd, a dibenion cyffredinol.

Cerdded Terfynau’r Plwyf. Yn flynyddol byddai tri person yn cerdded o amgylch y ffin. Byddai hyn yn cymeryd ryw bum awr a’r bwriad oedd atgyfnerthu'r ffin yn rheolaidd er mwyn osgoi unrhyw anghydfod. Cymerwyd lluniaeth yn The Tavern, Alltami - bara, caws a photel o lemonêd Gregory.

Treth leol o 1d (un hen geiniog) yn codi £32

1901 – Adeiladwyd swyddfeydd y cyngor am £ 1500. Rhannwyd Bwcle yn bedair ward etholiadol - Mold Bwcle Argoed; Dwyrain Gorllewin Bwcle; Tref Ewloe a Coedwig Ewloe; Pentrobin

1911- Poblogaeth yn 5,780. Dechreuodd y broses o reoli enwau ffyrdd a rhifo tai

1912 - 1921 - 1926 - Dyma flynyddoedd streiciau glo mawr ym Mwcle. Effeithiodd streiciau glo ar y dref a'i phobl yn ddirfawr gan fod llawer yn cael eu cyflogi yn y pyllau glo. Effeithiodd y streiciau hefyd ar y gwaith brics, a oedd yn dibynnu arnynt am danwydd. Codwyd 1d y dunnell ar gyfer Lles y Glowyr, ac adeiladwyd baddonau cyhoeddus ym 1926, ar safle lawnt fowlio'r dref

1914 –Sefydlwyd Pencadlys Pwyllgor Dogni Bwyd y Rhyfel Byd Cyntaf yn swyddfeydd y cyngor.

1916 - Sefydlwyd tribiwnlysoedd yn y swyddfeydd ar gyfer gorfodaeth filwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

1927- Dechrau darparu tai cymdeithasol ym Mwcle. Am y degawd nesaf, fwy neu lai, dymchwelwyd llawer o dai is-safonol. Adeiladwyd ‘Belmont Crescent’

1928 – Wedi blynyddoedd lawer o ystyriaeth, gosodwyd y cynllun carthffosiaeth gyhoeddus cyntaf ar hyd Chester Road. ‘Roedd hyn yn gychwyn rhaglen hir ar gyfer y dref.

1930 – Daeth trydan ii'r dref gan ddefnyddio NW power Co ar geblau uwchben. Adeiladwyd ‘Hillside Crescent’

1933 – Er mwyn rhoi cyflogaeth I ddynion lleol penderfynwyd draenio Comin Uchaf Bwcle I ddarparu caeau chwarae. Adeiladwyd Lime Grove a Mornington Crescent

1936 – Darparwyd maes chwarae newydd ar y Comin Uwch – dyma heddiw lle mae stand y Jiwbili

1936 - Nifer y siopau a busnesau 170, tafarndai 24

1937 - Darparwyd tai cymdeithasol newydd: Nant Mawr (60), Drury (30), Coppa Fields (48)

1938 - Sefydlu brigâd dân Bwcle

1939 - 1945 - Ail Ryfel Byd Mewn chwe ymdrech I godi arian ar gyfer y rhyfel cododd pobl Bwcle - £ 368, 314. 5s. 10d. – mae hyn yn cyfateb heddiw i
c. £ 13, 094,000

1946 - Dechreuwyd ar y gwaith o glirio tir yn ardal Nant Mawr -adeiladwyd 59 o gartrefi yn Frazer Drive

1951 – Cysegrwyd Gardd Goffa Hawkesbury I gofio’r rhai a gollwyd yn y ddau ryfel byd. Poblogaeth 7697

1954 - Agorwyd Ysgol Uwchradd Elfed

1962 - Agor baddonau wedi iddynt gael eu hadnewyddu.

1953 - Agorwyd Lawnt Folio Newydd yn Hawkesbury

1971 – Agorwyd y Ganolfan Siopa newydd

1974 – Ad Drefniad Llywodraeth Leol a diddymwyd Cyngor Dosbarth Trefol Bwcle