
Band Bob Smallwood 1940au 
Band Bob Smallwood 
Hysbyseb Rhaglen Cofroddion Coronation Festivities ar gyfer dawns 'Coronation Eve' 1953 
The Chariots 1960au 
Albert Hall Mehefin 1998
Credir i'r Neuadd Albert gael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a adenillwyd wedi dymchwel Ffatri Arfau Sandycroft rywbryd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i hadeiladwyd gan yr Henadur TED Hibbert, a oedd yn berchen arno ac yn ei weithredu. Ar y llawr gwaelod roedd dau siop - barbwr, a siop losin a thybaco . Rhwng y ddau roedd y fynedfa a oedd yn arwain at ystafell biliards a snwcer yn y cefn, gyda deuddeg bwrdd. Ar y llawr uchaf roedd neuadd ddawns gyda llwyfan bach, balconi a bar lluniaeth.
Roedd yr ystafell biliards a'r neuadd ddawns yn boblogaidd iawn, gyda'r olaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau , dawnsfeydd, gyrfaeoedd chwist, gemau bocsio, dathliadau teuluol, ac ystod eang o ddigwyddiadau a chyfarfodydd cymdeithasol a chymunedol, er engraifft Dawns Flynyddol y Clwb Criced.
Yn ddiweddarach datblygodd fel Glwb Gweithwyr Bistre, The Jolly Roger (canolfan chwarae i blant), ac, yng nghanol 2008, yn lleoliad adloniant unwaith eto, Yr Academi, gydag ystafell ddawns a stiwdio ddawns.