Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Yr Hen Lyfrgell

Ariannwyd y llyfrgell gan Ymddiriedolaeth Carnegie ac fe’i hagorwyd ym 1904. Wrth fynd I i mewn i’r adeilad roedd yr “ystafell lyfrau” ar y chwith a’r ystafell ddarllen ar y dde. Roedd hefyd ystafell bwyllgor ac ystafell uchaf, a ddefnyddid yn helaeth gan y cyhoedd fel ystafell ar gyfer cyfarfodydd I grwpiau a chymdeithasau.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd yr ystafell ddarllen, gyda’I stoc o bapurau newydd a chylchgronau, yn agor o 9am ac yn fan ymgynnull poblogaidd iawn. Roedd yr ystafell lyfrau ar agor Llun - Iau 6 - 8 yr hwyr a Gwe - Sad 6 - 9 yr hwyr; gellid benthyg un llyfr ar y tro.
Ym 1956, sefydlwyd adran blant, adran a fu yn hynod boblogaidd.

Caewyd y llyfrgell ym mis Rhagfyr 1976 ac ym mis Ionawr 1977, sefydlwyd llyfrgell newydd yn y Ganolfan Siopa.