


Mynedfa'r Old Baths, Mold Road 
Tachwedd 2002 
Newid Ystafelloedd a loceri Tachwedd 2002 
Tachwedd 2002 
Wedi'i ddefnyddio 2016
Mae'r baddonau yn sefyll y tu ôl i'r hen lyfrgell. Dyma’r baddonau cyntaf I gael ei adeiladu yn yr hen Sir Fflint. Adeiladwyd gan Hayes Bros gyda’r gost o £5,000. Rhoddwyd yr arian gan Gronfa Lles Ffederasiwn Glowyr Gogledd Cymru a codwyd y gronfa hon trwy danysgrifiad oddiwrth y glowyr o 1geiniog y tunnell.
Ar adeg ei agor ym 1928, roedd yn gyfleuster o'r radd flaenaf. Profodd yn boblogaidd iawn ar adeg pan nad oedd ystafelloedd ymolchi yn y mwyafrif o dai, ac felly roedd yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr iawn i’r glowyr, eu teuluoedd a’r gymdeithas yn gyffredinol.
Daeth pobl o bob rhan o'r sir i’w ddefnyddio ac mae pobl, hyd yn oed hedfiw, ac atgofion hapus am ddysgu nofio ym Maddonau Bwcle.
Wedi'i ailwampio ym 1962, cafodd ei gau yn 2002, a'i gymryd drosodd gan Gyngor Tref Bwcle gyda'r bwriad yn y pen draw o'i drawsnewid yn gyfleuster cymunedol.
Agorwyd y pwll nofio newydd yng Nghanolfan Hamdden Bwcle ym mis Gorffennaf 2005.