Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Glofeydd Bwcle

Sicrhaodd y ffynonellau toreithiog o lo o ansawdd da ger y gwythiennau clai gyflenwad lleol o danwydd ar gyfer y crochendai a'r gweithiau brics a chyflogaeth i gannoedd o ddynion a bechgyn. Cyrhaeddodd y cynhyrchiad glo ei uchafbwynt yn y 1890au.. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd 762 o bobl yn gweithio yn y pyllau glo I gymharu â 359 yn y diwydiant brics. Ym 1907, roedd George Watkinson & Sons Ltd., a oedd yn prydlesu sawl pwll, yn cyflogi 772 o ddynion. Roedd George Watkinson yn un o lawer a ddaeth i mewn i'r maes , rhai yn prydlesu sawl pwll ar unwaith; roedd rhai ohonynt hefyd yn ymwneud â gwneud briciau. Yn y 1920au, prynodd John Summers Steelworks sawl pwll glo i gyflenwi'r ffwrneisi yn Shotton .

Roedd y diwydiant glo yn ardal Bwcle fel mewn mannau eraill yn dueddol o ffynnu a dirywio wrth i'r prisiau godi a gostwng; bu cyfnodau hir o streicio wrth i’r gweithwyr ymladd am well amodau gwaith a gwell cyflog. Roedd damweiniau yn gyffredin. Ar y 12fed Mai 1837, bu farw un ar hugain o ddynion yng Nglofa Argoed oherwydd llifogydd ac aer budr ac er gwaethaf pob ymdrech dim ond deg gafodd eu hachub.

Roedd tri deg dau o byllau glo yn gweithio, rhai yn achlysurol, ar wahanol adegau o ddiwedd y 1700au / dechrau'r 1800au hyd nes i'r pyllau glo olaf gau yn y 1930au. Erbyn hyn roedd y pyllau wedi eu gweithio allan neu'n rhy ddrud i'w cynnal.