
Bras amcan yw rhai o’r dyddiadau
1536 - 1905 Nant Mawr
1737 - 1931 Sandycroft, Lloyd's Hills, Woods, Mount Pleasant
1750 - 1886 Y Mynydd Bach
? - 1842 Smalley's
1790 -? Gwyrdd Spon
1798 - 1933 Lexham Green (Old Coppa)
1820 - 1843 Aberllanerch
1830 -? Neuadd Argoed
1840 - 1879 Neuadd Ewloe
1849 - 1876 Cheapside
1855 -? Nant Mawr Uchaf
1860 - 1899 Pentrobin
1863 -? Melin Wynt
1863 - 1891 Argoed Colliery Co. (gyda llawer o newidiadau i'r cwmni)
1865 - 1901 Padeswood (Neidio, Neidio a Neidio)
1865 - 1909 Aston Hall
1870 -1920 Gorllewin Bwcle
1870 - 1933 George Watkinson & Sons
- wedi dominyddu am 60 mlynedd: Helyg, Maes Y Grug , Derw, Lludw, Mynydd a Bannel.
1889 - 1903 Lane End (Y Dumpling)
1889 - 1909 South Buckley Rock Brick Co.
DAU O BYLLAU GLO GEORGE WATKINSON
PWLL GLO’R ELM
Hwn oedd y pwll glo mwyaf cynhyrchiol ym Mwcle. Cafodd y simnai ei dymchwel ym 1933; adeiladwyd ym 1886, roedd yn 42 llath o uchder, yn cynnwys 120,000 o frics gyda 50 tunnell o ddeunydd yn y sylfaen a 100 tunnell o forter. Cafodd y domen rwbel ei dynnu I lawr yn 1947, roedd yn 17 llath o uchder ac yn gorchuddio tua dwy erw.
“Erbyn 1934 roedd gweithio gyda pileri siafft wedi dod I ben , a daeth pwll yr Elm I ddiwedd ei oes wedi bron I 60 mlynedd o gynhyrchu glo o ansawdd uchel ac hefyd ddarparu gwaith I i gyfran sylweddol o ddynion Bwcle a'r ardaloedd cyfagos . ”(Thomas J Hopwood)
PWLL GLO’R MYNYDD
George Watkinson oedd y perchen gwreiddiol. Roedd wedi ei leoli ar y Comin Uwch, lle mae'r ystâd dai newydd a maes chwarae'r plant heddiw. Wedi'i sefydlu ym 1897, roedd wedi tresmasu'n anghyfreithlon ar dir y comin. Yn gyfleus iawn, anwybyddodd y cyngor hyn gan fod y pwll yn cyflogi mil o ddynion. Cafodd yr adeilad olaf a oedd yn sefyll, sef yr ystafell lampau, ei ddymchwel o'r diwedd yn 2014 i wneud lle i'r tai newydd.