Ar ddechrau'r prosiect i adeiladu'r cais hwn, gwahoddwyd ysgolion cynradd Drury, Mountain Lane, Southdown a Westwood i gymryd rhan. Roedd eu hymateb yn wych.
Cwblhaodd disgyblion Ysgol Gynradd Drury brosiect clai ac mae eu 'potiau pinsio' lliwgar yn wledd i'w gweld.
Edrychodd disgyblion Ysgol Gynradd Mountain Lane ar y glofeydd, gan gyfrannu llawer o ddarnau o waith celf yn dangos.
Edrychodd disgyblion Ysgol Gynradd Westwood ar fywyd gwyllt a chefn gwlad, gan rannu eu hoff ffotograffau.
Creodd disgyblion Ysgol Gynradd Southdown sawl chwiliad geiriau.
Mewn gwirionedd crëwyd cymaint o chwiliadau geiriau gan ddisgyblion ysgol Bwcle nes bod yn rhaid cyfuno sawl un. Rydym yn hynod ddiolchgar i staff a disgyblion y pedair ysgol am eu cyfraniad gwerthfawr.
I brofi'ch sgiliau a'ch gwybodaeth lleol, mae yna sawl pos a gêm i'w cwblhau, ac mae rhai ohonynt yn eithaf heriol. Beth am roi cynnig ar chwiliad geiriau Bwcle, y posau llithrydd neu'r paru brics.
O dan Adran Glofa Bwcle gallwch dynnu llun hunlun ac mewn mannau eraill mae ffotograffau 'cyn ac ar ôl' o'r Tivoli, y groesfan reilffordd yn Church Road, canol y dref a Sinema'r Palas yn Lane End.
Gwnaethpwyd y mowld i wneud y fricsen sy'n cynnwys y ddau eliffant gan Stewart Millward tra roedd yn gweithio yn Lane End Brickworks. Roedd yn un o lawer a gynhyrchwyd ganddo.



