
Sain: James Edward Griffiths (Webbert) a Jackie Blundert yn dwyn i gof y gemau roeddent yn eu chwarae fel plant
Gyda acenion a thafodieithoedd glowyr a chrochenwyr o Loegr yn dod I mewn i’r ardal ac yn dylanwadu ar yr iaith leol , datblygodd Bwcle ei dafodiaith arbennig ei hunan sydd bellach , yn anffodus, yn marw allan
Daw'r darlun uchod o glawr llyfr gan Dennis Griffiths a gyhoeddwyd ym 1969. Roedd hwn yn ganlyniad ymchwil a wnaeth oherwydd bod y dafodiaith hyd yn oed yr adeg honno, mewn perygl o ddiflannu.
Dyfyniad yw hwn o'r Rhagair o “Talk of my Town”: “Fel ein mygiau, mae ein tafodiaith yn brysur fynd yn hynafol, ond mae ein hen bethau yn werthfawr”
Cliciwch ar y ddolen isod i glywed rhywfaint o dafodiaith Bwcle yn cael ei siarad gan y diweddar Margaret Shone. Cafodd ei chyfweld gan John Butler ar gyfer Casgliad y Bobl.