Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Co-op Rhosymedre

Co-op Rhosymedre

Roedd Cymdeithas Cydweithredol Cefn a'r Cylch Cyf yn weithgar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, yng Nghefn Mawr, Sir Ddinbych.

Adeiladwyd yr hen fecws hwn gan y Gymdeithas Gydweithredol yn dilyn ymweliad â Chefn Mawr gan siaradwyr o'r Rochdale Pioneers ym 1900, gyda'r bwriad o sefydlu cangen newydd. Ar ôl sefydlu siopau yn Stryd y Craen Cefn Mawr a Stryd Fawr Rhosymedre, adeiladwyd y becws a'r llaethdy yn Ffordd y Parc yn 1915. Mae'r adeilad ar wahan gydag addurniadau teils a gynhyrchwyd yn lleol yn dwyn y flwyddyn 1916 a'r geiriau 'Cefn & District Co-operative Society'. Yn ogystal â'r prif adeilad roedd nifer o adeiladau allan bach fel cobler a siop ddodrefn fwy, oll o fewn ffin yr eiddo.