Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Eglwys Rhosymedre

Cysegrwyd Eglwys Sant Ioan yn 1837 a'i ymgysegru i Sant Ioan yr Efengylwr

Mae'n rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae'r cyn ficeriaid yn cynnwys John David Edwards (ficer o 1843 i 1885), a gyfansoddodd Rhosymedre, ei emyn dôn enwocaf.
Fe'i hadeiladwyd ar y tir a roddwyd gan Syr W W Wynn o Wynstay, Rhiwabon. Y pensaer oedd Edward Welch a oedd fel arfer yn gweithio mewn partneriaeth â Hansom (o Hansom Cabs). Mae'r cynllun eglwys yn groesffurf gyda thoeau crib isel a phinaclau cornel. Mae ganddi borth gorllewinol gyda chlochdy trumiog. Mae cilfach yr Eglwys wedi ei wneud, ar yr ochr a'r cefn, o deils gloyw gwyrdd a brown boglynnog â theils llosgliw arddull canoloesol ar y llawr hwn a'r gangell. Fe'u cyflwynwyd gan aelodau'r eglwys hon a Sant Paul, Acrefair, a gyflogwyd yng Ngwaith Teils Trefynant ym 1906.