Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwaith Haearn Coed Talon

Roedd Coed Talon yn chwaraewr pwysig yn y chwyldro diwydiannol.

Adeiladwyd Pont Hoole Road Caer, ger yr orsaf reilffordd, pan oedd yr orsaf reilffordd yn cael ei datblygu yn 1854 gan ddefnyddio trawstiau haearn a gastiwyd yng Nghoed Talon. Cafodd ei chryfhau yn ddiweddar i gymryd cerbydau 40 tunnell i gydymffurfio â rheoliadau'r CE.

Disodlwyd y prif rhychwant amser maith yn ôl ond mae'r rhychwantau dynesu lluosog yn rhai gwreiddiol ac er y bydd rhai yn parhau bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu disodli. Gellir gweld y trawstiau a'r bwâu jac yn glir o'r ffordd i brif ddepo'r swyddfa bost. Mae'r adeiladwaith haearn bwrw hwn yn eithaf rhyfeddol a gwnaed y cydrannau i safon fanwl iawn o gywirdeb a manylder na fydd byth yn cael eu gweld eto ar y raddfa hon.

Roedd y cwmni haearn mor falch o'i waith fel bod enw'r gwneuthurwr yn aros ar ochr trawstiau ganrif a hanner yn ddiweddarach. Gellir gweld y trawstiau sy'n weddill gyda logo Coed Talon o faes parcio Gorsaf Rheilffordd Caer.