Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Terfysgoedd yr Wyddgrug - Yn deillio o Weithredu Diwydiannol yng Nghoed-llai

Nid oedd ei weithlu yn hoff iawn o reolwr Glofa Coed-llai Green a ddisodlodd Gymro yn 1864, felly pan roddwyd rhybudd ar ben y pwll ar 1 Mai, yn lleihau pris glo ac felly gyflogau'r glowyr roedd y glowyr yn gandryll, a throi at drais ar fore'r 10fed o Fai.
Cafodd y rheolwr ei wynebu gan dyrfa o 50 neu 60 o weithwyr, a orymdeithiodd ef i orsaf gyffordd Yr Hôb, lle cafodd ei gludo i'r Wyddgrug. Ni ddychwelodd am sawl wythnos, gan gyhoeddi gwys am ymosodiad yn erbyn 8 o lowyr yn ei absenoldeb.
Cafwyd terfysg pellach ar 24 Mai, pan gafodd dodrefn eu tynnu o dŷ'r rheolwr, a'u cludo i'r orsaf reilffordd. Daliodd yr heddlu löwr am ymosodiad, a chafodd ei ryddhau yn ddiweddarach gan y dorf, ond fe ymddangosodd gerbron ynadon a chafodd ei fechnïo i ymddangos eto ar 2 Mehefin.

Terfysgoedd yr Wyddgrug - Yn deillio o Weithredu Diwydiannol yng Nghoed-llai

Roedd torf o rhwng 500 a 1500 (amcangyfrifon yn amrywio'n fawr) wedi casglu y tu allan i Llys ar 2 Mehefin i glywed y ddedfryd a roddwyd ar y cyhuddedig. Pan gafodd y dedfrydau eu cyhoeddi, trodd y dorf yn ddig oherwydd y llymder, mewn rhai achosion carchariad. Roedd yr heddlu, a oedd wedi rhagweld trafferth, ac a oedd mewn grym llawn ac wedi'u hatgyfnerthu gan filwyr, wedi eu gwthio gan y dorf, a oedd wedi gorlifo allan o'r llys. Dechreuwyd daflu cerrig wrth i'r dorf symud ar hyd y bont reilffordd i'r orsaf ac i'r trên oedd yn aros.
Gan ddial heb rybudd, taniodd y milwyr ergydion yn ddiwahân i'r dorf, gan ladd pedwar o bobl, gan gynnwys dwy wraig, ac anafu dwsinau mwy. Buan y gwasgarodd y dorf ac erbyn y bore canlynol roedd y strydoedd gwaedlyd yn wag.

Atgynhyrchu drwy ganiatâd caredig Archifdy Clwyd