Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Capel Coch

Gwrando

Mae Lindsay Watkins, aelod cychwynnol Cymdeithas Ddiwylliannol a Threftadaeth Edeyrnion, yn sôn am Capel Coch.

Mae Capel Coch yn adeilad gyda chysylltiadau â'r rheilffyrdd. Pan gyrhaeddodd y rheilffordd Corwen ym 1865, daeth â llawer o weithwyr gyda ffydd grefyddol anghydyffurfiol.

Roeddent yn addoli mewn adeiladau dros dro hyd nes y gellid codi £800 i adeiladu'r capel hwn ym 1879. Fe'i hadeiladwyd o frics Rhiwabon, a gyrhaeddodd ar y rheilffordd hefyd.

Gosodwyd y garreg sylfaen gan Mr Thomas Barnes YH, Cadeirydd Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Roedd Barnes wedi bod yn AS dros Bolton ac roedd yn wneuthurwr cotwm a oedd yn byw yn Weston Rhyn ger Y Waun.

Wedi bod mewn defnydd fel capel am 85 mlynedd, achubwyd yr adeilad ar ôl ei gau a'i drawsnewid ar gyfer defnydd cymunedol yn 1993, gydag arian gan y Swyddfa Gymreig.

I ddechrau, roedd yr adeilad yn 'tele-fwthyn' a ddefnyddiwyd ar gyfer mynediad i'r rhyngrwyd cyn i hyn ledaenu. Yna cafodd nifer o ddefnyddiau cyn ei gymryd gan Gymdeithas Ddiwylliannol a Threftadaeth Edeyrnion fel amgueddfa yn 2015.