Mae Lindsay Watkins, aelod cychwynnol Cymdeithas Ddiwylliannol a Threftadaeth Edeyrnion, yn sôn am y ffenestri yng Nghapel Coch.
Gwagiwyd tu mewn i'r capel yn 1993 a gosod llawr mesanîn i roi lle ychwanegol. Arhosodd ffenestri'r capel heb eu newid ac maent yn darparu awyrgylch ysgafn a golau yn yr adeilad sy'n berffaith ar gyfer arddangos arddangosfeydd. Penderfynwyd gwneud strwythur yr adeilad yn rhan o'n harddangosfa trwy roi arddangosfeydd yn y ffenestri bwa hardd. Roeddem eisiau gwella siâp y ffenestri heb gau allan y golau dydd naturiol ac roeddem yn ffodus iawn i ganfod bod un o'n haelodau yn ddylunydd gwydr lliw enwog gyda thros 65 mlynedd yn y busnes. Yn 2017, bu Alfred Fisher yn gweithio ar ein syniadau cychwynnol i gynhyrchu'r arddangosfa Teithwyr Trwy Gorwen Trwy'r Oesoedd mewn tri phâr o ffenestri, gan ddangos ein Corwen fel Croesffordd Gogledd Cymru. Dyma'r tro cyntaf i Alfred weithio gyda finyl ond mae'r canlyniadau'n brydferth.
Mewn pryd ar gyfer tymor 2018, gweithiodd Alfred ar ddyluniadau ar gyfer y tri phâr o ffenestri ar ochr arall yr adeilad. Mae'r rhain yn ddathliad o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy ac maent yn syfrdanol.


